Rhif y ddeiseb: P-06-1357

Teitl y ddeiseb: Llunio cynllun gweithredu microblastigau newydd i Gymru 

Geiriad y ddeiseb: Mae gronynnau microblastig wedi'u canfod o gopaon y mynyddoedd uchaf i ddyfnderoedd eithaf y cefnforoedd, ac amcangyfrifir bod microffibrau plastig o'r dillad rydym yn eu gwisgo yn cyfrif am tua 35 y cant o'r holl lygredd plastig yn ein moroedd a'n cefnforoedd. Canfuwyd bod microblastigau yn wenwynig i fywyd morol ac mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu eu bod yn niweidiol i fywyd ar dir, gan gynnwys ni ein hunain.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i warchod bywyd yn ein moroedd ac ar ein tir.

 

Mae microblastigau yn deneuach na blew dynol ond maent yn achosi problemau mawr i fywyd yn ein cefnforoedd ac ar y tir. Maent yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys poteli plastig, teiars cerbydau a hyd yn oed o baent ar adeiladau a marciau ar y ffyrdd.

Maent hefyd yn yr aer ac yn ein cadwyn fwyd.
Mae darnau hyd yn oed wedi'u canfod yn y gwaed mewn 8 o bob 10 o bobl, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith hyn ar iechyd.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o weithredu ar blastigau ond mae lle i wneud mwy i ymdrin â microblastigau.

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau i gynnwys camau fel ymdrin â’r microffibrau plastig sy’n cael eu rhyddhau a llygredd microblastigau ar dir ac mewn cyrsiau dŵr o amgylch Cymru, yn ogystal ag addysgu am y materion hyn mewn ysgolion.

Mae llygredd microblastigau yn broblem fawr yng Nghymru – rhaid inni fynd i’r afael ag ef
.


1.        Y cefndir

Gronynnau plastig sydd ond ychydig filimetrau o ran maint yw microblastigau, sydd llai na 5mm mewn unrhyw ddimensiwn. Mae modd eu categoreiddio’n ddau brif fath: sylfaenol ac eilaidd

1.1.a.   Microblastigau Sylfaenol

Microblastigau yw'r rhain sydd wedi’u cynhyrchu i fod yn ficroblastigau e.e. microbelenni, yn ogystal â microffeibrau sy’n dod oddi ar ddillad a thecstilau eraill, megis rhwydi pysgota.

Dengys adroddiad o 2016 gan yr ymgynghorwyr amgylcheddol Eunomia, 'Plastics in the marine environment', yn dangos mai traul teiars a gollyngiadau pelenni yw'r ffynhonnell fwyaf cyffredin o ficroplastigau sylfaenol. Mae pelenni plastig, a elwir fel arall yn belenni cyn-gynhyrchu neu’n 'nurdles', yn ficroblastigau a ddefnyddir wrth gynhyrchu cynhyrchion plastig.

Title: Inserting image...

Ffigur 1. Plastigau yn yr amgylchedd morol. [Ffynhonnell: Eunomia]

1.1.b.   Microblastigau Eilaidd

Caiff microplastigau eilaidd eu creu wrth i ddarnau mwy o blastig gael eu torri’n llai gan ffactorau allanol megis pelydriad UV, gwynt, tonnau, anifeiliaid ac ati. Gan y deellir bod 80% o lygredd plastig yn mynd i'r amgylchedd morol o ffynonellau tir, mae macroblastigau (eitemau plastig mwy) yn ffynhonnell allweddol o lygredd microblastig.

Mae adroddiad o 2017 gan OSPAR, Assessment documents of land-based inputs of microplastics in the marine environment, yn dangos bod sbwriel o’r tir yn achosi rhai o'r allyriadau uchaf o ficroblastigau mewn gwledydd OSPAR, yn ail i dreulio teiars yn unig.

Graff gyda sgwariau glas  Disgrifiad a gynhyrchwyd yn awtomatig gyda hyder canolig

Ffigur 2. Amcangyfrif o allyriadau o ficroplastigau mewn dalgylchoedd OSPAR (tunnell/blwyddyn). [ffynhonnell: Ospar]

Noder: Mae'r bariau'n cynrychioli ymylon ansicrwydd yr allyriadau a’r dotiau gwyn yn cynrychioli'r canolbwynt.

 

1.2.          Effaith microblastigau

Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gall amlyncu microblastigau gael effaith negyddol ar fywyd morol. Yn ogystal, gall microblastigau amsugno a chrynodi llygryddion o'r amgylchedd cyfagos (biogronni), a’i gwneud yn haws i lygryddion cemegol fynd i mewn i'r gadwyn fwyd.

Maen hysbys bod organebau'n llyncu microblastigau drwy'r gadwyn fwyd, ac maent wedi eu canfod mewn pysgod sy’n cael eu gwerthu i bobl ei fwyta, yn ogystal â dŵr yfed mewn potel. Mae hefyd yn hysbys bod microblastigau’n cael eu hanadlu neu eu llyncu, ac wedi cael eu canfod mewn gwaed dynol. Fodd bynnag, mae effeithiau andwyol posibl plastigau ar bobl yn anodd eu mesur, ac nid yw’n hysbys i ba raddau y maent yn achosi 'niwed'.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o fesurau i atal llygredd plastig, gan gynnwys:

§    cyflwyno tâl ar fagiau siopa untro;

§    gwahardd meicrobelenni mewn cynhyrchion gofal personol rinsio i ffwrdd; a

§    gwahardd cynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel (i ddod i rym ym mis Hydref 2023).

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu eitemau at y rhestr o gynhyrchion plastig untro sydd wedi'u gwahardd yn gyffredin. Yn ei hymateb i'r ddeiseb hon, cadarnhaodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod Llywodraeth Cymru:

... eisoes yn blaenoriaethu casglu tystiolaeth ar gyfer cynhyrchion problematig eraill sy'n cyfrannu at lygredd microblastig fel weips.

Pan gânt eu fflysio, yn ogystal ag achosi rhwystrau, mae weips hefyd yn rhyddhau microffeibrau plastig i'r amgylchedd. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (Medi 2022) mai'r broblem fawr gyda weips gwlyb yw’r labelu, gan nad yw’n faes sydd wedi'i ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, mae Cynllun Dŵr diweddar Llywodraeth y DU yn cynnwys ymrwymiad i ymgynghori ar wahardd y defnydd o blastig mewn weips. Yn ei hymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Gweinidog:

Rydym wrthi’n gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ar gamau rheoleiddio posibl yn y maes hwn.

Tynnodd y Gweinidog sylw hefyd at waith Llywodraeth Cymru ar gyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr a Chynllun Dychwelyd Ernes.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cyd ar gynigion ar gyfer cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer y DU gyfan (gan bedair gwlad y DU), gyda ffocws ar broses a fyddai’n codi’r gost o ymdrin â phecynwaith gwastraff oddi ar ysgwyddau cartrefi, trethdalwyr lleol a chynghorau a’i rhoi ar gynhyrchwyr pecynwaith. Mae hyn yn unol ag egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', sef mai’r rhai sy'n gwneud cynhyrchion sy'n achosi llygredd sy’n talu'r costau llawn pan fydd y cynhyrchion hynny’n troi’n wastraff. Cynigir y bydd y Cyfrfifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr:

… yn cynnig cymhelliant ariannol i gynhyrchwyr leihau faint o becynwaith y maent yn ei roi ar y farchnad ac i wella'r graddau y gellir ailgylchu pecynwaith.

Y disgwyl oedd y byddai Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig yn cael ei weithredu fesul cam o 2024 ymlaen (2023 yn wreiddiol), ond mae hyn wedi’i ohirio ymhellach, yn ddiweddar, tan fis Hydref 2025.

O dan Gynllun Dychwelyd Ernes, codir swm o arian ar ddefnyddwyr fel blaendal ymlaen llaw pan fyddant yn prynu, er enghraifft, diod mewn cwpan untro. Mae modd cael yr arian nôl pan gaiff y cynhwysydd gwag ei ddychwelyd, gan gynyddu nifer y cynwysyddion sy’n cael eu hailgylchu.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cyd ar gynigion am Gynllun Dychwelyd Ernes (gan Lywodraeth Cymru,  gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, a chan Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon) am yr eildro yn 2021. Gwnaeth y llywodraethau ymateb ar y cyd ym mis Ionawr 2023, a chynigiwyd dyddiad cychwyn o 1 Hydref 2025; fodd bynnag mae hwn yn “ddyddiad targed ymestynnol".

Yn yr ymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Gweinidog:

Rydym hefyd wedi gweithio ar draws llywodraethau i ddatblygu Safon Brydeinig i atal colli pelenni plastig i'r amgylchedd yn ystod cyfnodau cludo a chynhyrchu plastig. Rydym wedi cydweithio ar ddatblygu dangosydd microblastigau ar gyfer ein moroedd.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Cynhaliodd pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd ymchwiliad ynghylch lleihau gwastraff plastig, lle edrychodd ar ffynonellau llygredd microblastigau a’u heffaith.

Ym mis Ionawr 2021, gofynnodd Huw Irranca-Davies AS i Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y pryd, am ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd microblastigau yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nifer o sefydliadau, gan gynnwys Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) ac Ymchwil Diwydiant Dŵr y DU (UKWIR), ar ddod i ddeall llygredd microblastigau yn well.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.